PET(4) SAR 08

Y Pwyllgor Deisebau

Ymgynghoriad ar ddeiseb P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion

Ymateb gan Dorian Williams

 

28 Mawrth 2013

 

William Powell AC

Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

 

Annwyl William Powell AC

 

Diolch i chi am eich e-bost a ddaeth i law heddiw, 28.03.13.

 

Hoffwn ymateb fel Prifathro ac fel aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.

 

Dyma farn Corff Llywodraethu’r Ysgol:

 

1.      Nid yw’r Lluoedd Arfog yn cael cyfle i ddod mewn i Fro Myrddin i sgwrsio â disgyblion ac mae’r gwaharddiad yma mewn bodolaeth ers nifer o flynyddoedd.

2.      Mae pob cais gan y Lluoedd Arfog i gynnig cefnogaeth o unrhyw fath, mewnbwn gyrfaol neu gweithgaredd allgyrsiol rhad ac am ddim yn cael ei wrthod, (ee diwrnod cadw’n heini (‘assault course day out’).

3.      Yn yr achosion prin hynny pryd y mae disgybl wedi dewis ymuno â’r Lluoedd Arfog, nid yw’r ysgol yn rhwystro Swyddog Gyrfa Cymru a leolir yn yr ysgol rhag cynorthwyo’r unigolyn i dderbyn gwybodaeth perthnasol.

 

Diolch am y cyfle i rannu ein safiad.

 

Yn gywir

 

Dorian Williams

Prifathro